Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 23 Ionawr 2008
Cynigion a Gyflwynwyd ar 16 Ionawr 2008
Dadl Fer
NDM3845 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ceg Gam: Rhoi Sylw i’r Diffyg Deintyddol yn Sir Benfro.
NDM3847 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn enwebu Vincent Michael Peter Tyndall i’w benodi gan Ei Mawrhydi Y Frenhines i swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn unol â Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005
E-bostiwyd nodyn cefndir am y broses benodi at Aelodau ar 16 Ionawr 2008.
NDM3846 Gareth Jones (Aberconwy)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi:
1. Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu am "Planning for future railway provision” a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Tachwedd; a
2. Ymateb y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth i’r adroddiad, a osodwyd yn y swyddfa gyflwyno ar 15 Ionawr.
NDM3848 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi â phryder bod dyled bersonol ar draws y DU yn fwy na £1.3 triliwn.
2. Yn nodi gyda gofid bod lefel y ddyled ymysg pobl ifanc, yn enwedig myfyrwyr, yn rhwystr rhag perchentyaeth.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi cynlluniau a anelir at wella llythrennedd ariannol ymhlith plant ac oedolion, a chynnig cyngor a chefnogaeth i’r rheini sydd eisoes yn cael anawsterau â dyled.
NDM3849 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi â phryder y gostyngiad parhaus yn ffigurau GYC Cymru.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 17 Ionawr 2008
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3848
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gysylltu â Thrysorlys y DU a sefydliadau ariannol i roi sylw i’r argyfwng dyled sydd ar dwf.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 18 Ionawr 2008
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3846
1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddysgu o brofiad datblygu rheilffordd Glynebwy i sicrhau y caiff prosiectau datblygu rheilffordd eu cwblhau o fewn yr amserlen yn y dyfodol.
2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella Rheilffordd Calon Cymru fel rhan o’i nod i wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y gogledd a’r de.
3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi ailagor gorsaf Carno ar ôl cyflwyno cynllun busnes dichonadwy.
4. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i edrych ar ddichonoldeb cysylltu gwahanol rannau o’r rhwydwaith rheilffordd ar hyd arfordir gorllewin Cymru.
5. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i fuddsoddi mewn cyfleusterau gwell mewn gorsafoedd.
6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i edrych ar bosibilrwydd dod yn berchennog neu’n bartner mewn cwmni lesio stoc treigl.
NDM3848
Carwyn Jones (Bridgend)
Dileu popeth ar ôl pwynt un ac yn ei le rhoi:
2. Yn cymeradwyo cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru a anelir at wella llythrennedd ariannol ymhlith plant ac oedolion, a chynnig cyngor a chefnogaeth i'r rheini sydd eisoes yn cael anawsterau â dyled.
NDM3849
1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai busnesau bach a chanolig eu maint yw asgwrn cefn economi Cymru ac yn galw am:
1) Ymestyn mynediad at fand eang i alluogi busnesau Cymru i gystadlu yn yr economi fyd-eang; a
2) Rhoi cymaint o gyfleoedd â phosibl i fusnesau bach a chanolig eu maint Cymru wneud ceisiadau am gontractau cyhoeddus.
2. Carwyn Jones (Bridgend)
Dileu popeth ar ôl ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru’ ac yn ei le rhoi:
1.Yn nodi'r atal yng ngostynigad GYC ers 2000;
2.Yn croesawu'r camau canlynol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella GYC:
a) Dull Cymru gyfan o weithredu datblygaid economaidd ac ymrwymiad i roi strategaeth marchnad lafur ar waith gyda'r nod hirdymor o gyflogaeth lawn ar raddfa o 80%;
b) Ymrwymiad Cymru'n Un i wella'r seilwaith trafnidiaeth;
c) Y strategaeth sgiliau a chyflogaeth newydd 'Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru', i godi lefelau sgiliau a mynd i'r afael ag anghenion busnesau.
Mae’r 'Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru i gael –
http://new.wales.gov.uk/consultations/currentconsultation/educat_skills/skillsthatwork/?lang=cy
Mae Cymru’n Un i gael –
http://wales.gov.uk/about/strategy/strategypublications/strategypubs/onewales/?lang=cy