Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod yn y dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Ionawr 2017
NNDM6216 Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Peidio â Gadael yr un Milwr ar Ôl
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai sicrhau bil hawliau gwarantedig i gyn-aelodau'r lluoedd arfog i wasanaethau gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
a) sicrwydd o gael mynediad at dai cymdeithasol, gan gynnwys addasiadau os oes angen;
b) blaenoriaeth o ran angen pan maent yn ddigartref; ac
c) triniaeth gyflym gan y GIG.
3. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig 'Support for Armed Forces Veterans in Wales', sy'n tynnu sylw at yr anawsterau a gaiff cyn-aelodau'r lluoedd arfog o ran cael mynediad at dai cymdeithasol yng Nghymru.
4. Yn nodi na ddylai milwyr gael eu gadael ar ôl ar faes y gad ac na ddylent, felly, gael eu gadael ar ôl pan ddaw eu cyfnod balch o wasanaethu i ben.