23/02/2016 - Cynigon â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 16/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/02/2016

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 23 Chwefror 2016

Cynigion a gyflwynwyd ar 16 Chwefror 2016

NDM5968 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â rhyddfreinio ac estyn lesddaliadau hir, i'r graddau y maent yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i)  a (iii).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2015-16/housingandplanning.html (Saesneg yn unig)

NDM5969 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:

a.         Adrannau 2-36

b.         Adrannau 38-81

c.         Adran 37

d.         Adrannau 83-116

e.         Adran 82

f.          Adrannau 118-156

g.         Adran 117

h.         Adrannau 157-170

i.          Adrannau 172-184

j.          Adran 171

k.         Adrannau 185-195

l.          Adran 1

m.        Teitl Hir

NDM5970 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:

a.         Adrannau 2 - 31

b.         Atodlenni 1 a 3

c.         Adrannau 32 - 52

d.         Atodlen 2

e.         Adrannau 53 - 57

f.          Adrannau 59 - 96

g.         Atodlen 4

h.         Adran 58

i.          Adrannau 97 - 117

j.          Atodlen 5

k.         Adrannau 118 – 126

l.          Adran 1

m.        Teitl Hir

NDM5971 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynnwys Adroddiad Terfynol y Ddyletswydd i Adolygu Asesiad Ôl-Ddeddfwriaethol o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) - Dyletswydd i Adolygu – Adroddiad Terfynol

NDM5972 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2014-15.

Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2016.

NDM5973 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2016. 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 5 Chwefror 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5516

1. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn annerbyniol o uchel.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod targedau amseroedd aros cyfredol yn cuddio amseroedd aros am therapïau seicolegol sy'n aml yn hir ac yn galw am ddata mwy tryloyw a rheolaidd am amseroedd aros ar gyfer ymyriadau seicolegol.

NDM5972

1. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod adroddiad Estyn yn nodi "mewn ysgolion sydd ag arweinwyr llwyddiannus, ceir diwylliant cadarn o ddysgu proffesiynol a ffocws ar wella ansawdd addysgu a dysgu" ac yn credu y byddai talu premiwm addysgu i staff addysg tra cymwysedig sy'n cynnal eu datblygiad proffesiynol yn cyfrannu'n sylweddol at godi safonau addysgu.

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod adroddiad Estyn yn dangos bod angen gwneud mwy i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion ysgolion uwchradd sy'n cael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion.

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu ar adeg pan fo nifer y disgyblion mewn ysgolion cynradd yn cynyddu, pan fo ysgolion yn cau, a phan fo prinder athrawon, fod dosbarthiadau llai ar gyfer babanod yn bwysicach nag erioed i roi amser i athrawon addysgu ein plant yn iawn.