Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 23 Mawrth 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 16 Mawrth 2010
NDM4444 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2010.
NDM4445 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
Yn cymeradwyo bod y gorchymyn drafft, Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Coleri Electronig) (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2010.NDM4446 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Gweithgarwch Rheoledig) (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2010.
NDM4447 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu adroddiad blynyddol Prif Arolygydd ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2008-09 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno a'i e-bostio at Aelodau’r Cynulliad ar 16 Mawrth 2010.
NDM4448 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 16(4) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004:
Yn cymeradwyo fersiwn ddrafft Cod Ymarfer Archwilio diwygiedig Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Cafodd gopi o fersiwn ddrafft Cod Ymarfer Archwilio diwygiedig Archwilydd Cyffredinol Cymru ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno a'i e-bostio at Aelodau'r Cynulliad ar 16 Mawrth 2010.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 18 Mawrth 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4447
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi sylw ar frys i’r sialensiau a nodwyd yn yr adroddiad blynyddol.