23/04/2013 - Cynigion heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w trafod yn y dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Ebrill 2013

NNDM5214 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) yr effaith andwyol ar dros 700 o gyn-weithwyr Visteon sy'n byw yn Abertawe a'r cyffiniau yn sgîl colli eu pensiynau; a

b) yr effaith ganlyniadol ar economi Abertawe a'r cyffiniau yn sgîl colli'r pensiynau Visteon hynny.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad i effaith colli'r pensiynau ar weithwyr Visteon ac economi'r ardal y maent yn byw ynddi.

Cefnogir gan:

Byron Davies (Gorllewin De Cymru)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Mick Antoniw (Pontypridd)
Alun Ffred Jones (Arfon)
Leanne Wood (Canol De Cymru)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Nick Ramsay (Mynwy)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
David Rees (Aberafan)