Cynigion a Gwelliannau i’w trafod yn y Dyfodol
Cynnig heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd ar 23 Mai 2011
NNDM4721 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM4660, y darpariaethau ychwanegol hynny a gyflwynwyd i’r Bil Addysg ynghylch ffioedd am fwrdd a llety mewn Academïau byrddio, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir agor NNDM4660 drwy’r hyperddolen a ganlyn
:
I weld copi o’r
Mesur Seneddol Lleoliaeth i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/education.html
NNDM4722 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM4642, y darpariaethau ychwanegol hynny a gyflwynwyd i’r Bil Lleoliaeth ynghylch pwerau cyffredinol a phwerau codi ffioedd i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru a hawl y gymuned i brynu, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir agor NNDM4642 drwy’r hyperddolen a ganlyn
:
I weld copi o’r
Mesur Seneddol Lleoliaeth i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html