Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 23 Mai 2012
Cynigion a gyflwynwyd ar 16 Mai 2012
Dadl Fer
NDM4993
Mick Antoniw (Pontypridd): Plant sy’n Ceisio Lloches a sut y cânt eu hamddiffyn yng Nghymru
Mae Llywodraeth y DU yn llesteirio gallu Llywodraeth Cymru o ran plant sy’n ceisio lloches yng Nghymru. Mae diogelu plant yn fater sydd wedi’i ddatganoli, ond mae’r graddau y mae Llywodraeth y DU wedi dehongli ei chymhwysedd a gadwyd ar fewnfudo, sef trin unrhyw fater sy’n ymwneud â cheiswyr lloches, plant sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid fel mater a gadwyd yn ôl, yn cynnwys y meysydd hynny sy’n gymwyseddau a ddatganolwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mynd yn groes, mewn sawl achos, i amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer dinasyddion Cymru: o ran hawliau plant, cydraddoldeb a gweithio tuag at gymdeithas deg a chynhwysol.
NDM4992 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer 2012/2013.
Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU (ar gael yn Saesneg yn unig):
http://number10.cabinetoffice.gov.uk/engage/queens-speech-2012/
Cynigion a gyflwynwyd ar 22 Mai 2012
NDM4994 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Aled Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru).
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 17 Mai 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4992
1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y ffaith nad yw’r rhaglen ddeddfwriaethol yn cynnwys unrhyw fesurau ystyrlon i gyflawni twf yn yr economi.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Bil Ynni a fydd yn diwygio’r farchnad drydan er mwyn annog buddsoddiad mewn cynhyrchu carbon-isel ac ynni glân.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Bil Rhoddion Bach a fydd yn galluogi elusennau bach i hawlio 25c yn ôl am bob £1 a roddir, hyd at £5,000.
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Bil Diwygio'r Banciau a fydd yn gwahanu gweithgareddau manwerthu’r banciau oddi wrth eu gweithgareddau buddsoddi.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 18 Mai 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4992
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU a’i hymrwymiad parhaus i:
a) lleihau’r diffyg a thrwy hynny sicrhau’r cyfraddau llog isaf erioed yn y Deyrnas Unedig, sydd o fudd i berchnogion tai ledled Cymru;
b) adfer sefydlogrwydd economaidd, gan greu cyfoeth i gynnal gwasanaethau cyhoeddus.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu Bil Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd a chreu swydd Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd.