Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y Dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Mai 2013
NNDM5247 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gofal, sy’n ymwneud â threfniadau cyfatebol y DU ar gyfer lleoli oedolion ar draws ffiniau, trefniadau i sicrhau parhad yn y gofal i oedolion yn achos methiant gan y darparwr ac i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gydweithredu â’r Awdurdod Ymchwil Iechyd, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill documents — Care Bill [HL] 2013-14 — UK Parliament
NNDM5248 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2013-14/antisocialbehaviourcrimeandpolicingbill/documents.html
NNDM5249 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â chyflwyno Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned, Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, Hysbysiadau Cau, a diwygio Deddf Cwn Peryglus 1991, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill Documents – Anti-social Behaviour, Crime and Policing Bill 2013-14 – UK Parliament Website
NNDM5250 Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Eiddo Deallusol sy’n ymwneud â rhyddid gwybodaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill documents — Intellectual Property Bill [HL] 2013-14 — UK Parliament