Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 23 Mehefin 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 16 Mehefin 2010
Dadl Fer
NDM4498 Janet Ryder (Gogledd Cymru): Gobaith.
NDM4499 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar ei ymchwiliad i Wasanaethau Stroc yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ebrill 2010.
Noder: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mehefin 2010.
NDM4500 Jeff Cuthbert (Caerffili)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mai 2010.
NDM4501 Nick Ramsay (Mynwy)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnydd mewn cyfraddau diabetes yng Nghymru a'r sialensiau i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i hynny;
2. Yn cydnabod swyddogaeth sefydliadau ymchwil yng Nghymru o ran datblygu ymchwil i driniaeth a allai wella diabetes;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal adolygiad o ddarpariaeth Byrddau Iechyd Lleol o wasanaethau diabetes.
4. Yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu system math SCI-DC, i helpu i sicrhau bod y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru yn cael ei roi ar waith yn effeithiol.
Mae'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://www.wales.nhs.uk/documents/DiabetesNSF_welsh.pdf
NDM4494
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
David Melding (Canol De Cymru)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r pryderon a godwyd yng Nghymru ynghylch y ffaith bod Israel wedi rhyng-gipio’r llynges fach Free Gaza, ac yn gresynu’n fawr y bywydau a gollwyd yn sgil y weithred hon;
2. Yn credu y dylid cynnal ymchwiliad annibynnol, diduedd, credadwy llawn i’r digwyddiadau hyn; ac yn
3. Nodi’r gefnogaeth eang yng Nghymru i benderfyniad 1860 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.
Ceir dolen at benderfyniad 1860 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yma:
http://www.un.org/News/Press/docs/2009/sc9567.doc.htm
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 18 Mehefin 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4494
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
4. Yn nodi bod llawer o’r cymorth a gludir gan y llynges fach bellach wedi cyrraedd Gaza.
5. Yn credu y dylid danfon cymorth ar hyd llwybrau awdurdodedig.
6. Yn nodi bod y blocâd ar longau wedi llacio’n ddiweddar.
NDM4501
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le "Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod gan Fyrddau Iechyd Lleol ddealltwriaeth glir o’r hyn sydd ei angen er mwyn cyflawni safonau’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes erbyn 2013 ynghyd â chynlluniau gweithredu".
2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 4 dileu "weithredu" a rhoi yn ei le "archwilio".