Cynigion a gwelliannau i'w trafod yn y dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Mehefin 2015
NNDM5791
Mick Antoniw (Pontypridd)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi'r ddeiseb a anfonwyd at Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Gyfiawnder yn galw am bardwn ar ôl marwolaeth ar gyfer Richard Lewis (sy'n fwy adnabyddus fel Dic Penderyn).
Mae copi o'r ddeiseb wedi'i osod yn Llyfrgell y Cynulliad.
Cefnogir gan:
Keith Davies (Llanelli)
Christine Chapman (Cwm Cynon)
Alun Davies (Blaenau Gwent)
David Rees (Aberafan)
NNDM5798 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-16 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 23 Mehefin 2015.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
NNDM5799
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Alun Ffred Jones (Arfon)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu cyhyd â bod fformiwla Barnett yn parhau y dylai datblygiadau sydd o fudd i Loegr yn unig, fel HS2, arwain at gyllid canlyniadol Barnett llawn i Gymru.
2. Yn credu ymhellach, pan fo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn anghydfod ynghylch a ddylai gwariant arwain at gyllid canlyniadol Barnett i Gymru bod angen corff annibynnol i farnu.
Cefnogir gan:
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)