23/09/2014 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 16/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/09/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 16 Medi 2014

Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Mehefin 2014

NDM5533 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Seilwaith, sy'n ymwneud â dileu a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol drwy gytundebau a gorchmynion rheoli rhywogaethau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir cael copi o'r Bil Seilwaith yma:

http://services.parliament.uk/bills/2014-15/infrastructure.html

Cynigion a gyflwynwyd ar 16 Medi 2014

NDM5568 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r cynnydd a gyflawnwyd o safbwynt hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2013-14, fel yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 23 Mehefin 2014.  

Cynigion a gyflwynwyd ar 19 Medi 2014

NDM5575 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol John Griffiths (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Rebecca Evans (Llafur).

NDM5576 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

(i) Alun Davies (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Leighton Andrews (Llafur);

(ii) Gwenda Thomas (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Jenny Rathbone (Llafur).

NDM5577 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Alun Davies (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Julie James (Llafur).

NDM5578 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

(i) Jeff Cuthbert (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Menter a Busnes yn lle David Rees (Llafur);

(ii) Gwenda Thomas (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Menter a Busnes yn lle Julie James (Llafur).

NDM5579 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

(i) Jeff Cuthbert (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn lle Gwyn Price (Llafur);

(ii) Jenny Rathbone (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn lle Julie James (Llafur).

NDM5580 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

(i) Alun Davies (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Leighton Anderws (Llafur);

(ii) John Griffiths (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Rebecca Evans (Llafur).

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 18 Medi 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5568

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai'r Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a gynigir yn y Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol fod yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru, y dylai gael ei benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol ac y dylai reoli dangosyddion datblygu cynaliadwy.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi sylw'r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar rwystredigaethau o ran yr ymdrechion i gynyddu faint o ynni adnewyddadwy a gaiff ei gynhyrchu ar raddfa gymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy ar raddfa gymunedol wrth gyflwyno adroddiad ar y Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi sylw'r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy nad oes unrhyw gyfeiriad at fynd i'r afael â thlodi tanwydd i wella iechyd a chyflawniad addysgol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer y Grŵp Cynghori ar Dlodi Tanwydd gyda chylch gwaith priodol a'r gallu i wneud argymhellion polisi i'r Llywodraeth er mwyn sicrhau dull mwy integredig o fynd i'r afael â thlodi tanwydd.