Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 24 Ionawr 2012
Cynigion a gyflwynwyd ar 9 Ionawr 2012
NDM4888
Gwenda Thomas (Castell Nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y Deyrnas Unedig ystyried y darpariaethau pellach y cyfeirir atynt yn y Bil Diwygio Lles sy’n ymwneud â’r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant, yn ogystal â’r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NDM 4713, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Ionawr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I weld copi o’r
Mesur Seneddol Lleoliaeth i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/welfarereform.html[Yn agor ffenestr newydd]
Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Ionawr 2012
NDM4896
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd, a fydd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi, gyda chynnwys y gymuned yn egwyddor allweddol iddi.
NDM4897
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) cynigion deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol a Rhaglenni Gwledig a Physgodfeydd;
b) ‘cyfnod ystyried’ Llywodraeth Cymru sy’n ceisio barn rhanddeiliaid ynghylch y blaenoriaethau strategol ar gyfer y rhaglenni Ewropeaidd arfaethedig yng Nghymru (2014–2020);
c) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau cysylltiadau Cymru â sefydliadau’r UE ymhellach wrth ddatblygu a gweithredu ei Rhaglenni Ewropeaidd.
Mae cynigion deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd am ddarpariaethau cyffredin Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, y Gronfa Gydlyniant, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop ar gael drwy’r ddolen ganlynol:
http://ec.europa.eu/regional_policy/sources/docoffic/official/regulation/pdf/2014/proposals/regulation/general/general_proposal_en.pdf
Mae cynigion deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol ar gael drwy’r dolenni canlynol:
- Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop:
http://ec.europa.eu/regional_policy/sources/docoffic/official/regulation/pdf/2014/proposals/regulation/erdf/erdf_proposal_en.pdf
- Cronfa Gymdeithasol Ewrop:
http://ec.europa.eu/regional_policy/sources/docoffic/official/regulation/pdf/2014/proposals/regulation/esf/esf_proposal_en.pdf
- Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd
http://ec.europa.eu/regional_policy/sources/docoffic/official/regulation/pdf/2014/proposals/regulation/etc/etc_proposal_en.pdf
Mae cynigion deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer rhaglenni gwledig ar gael drwy’r ddolen ganlynol:
- Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig
http://ec.europa.eu/agriculture/cap-post-2013/legal-proposals/com627/627_en.pdf
Mae cynigion deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer y rhaglen Pysgodfeydd ar gael drwy’r ddolen ganlynol:
- Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop
http://ec.europa.eu/fisheries/reform/com_2011_804_en.pdf
Mae cyfnod ystyried Llywodraeth Cymru ar gael drwy’r ddolen ganlynol:
http://wefo.wales.gov.uk/programmes/post2013/news/111129reflectionexercise/?lang=cy
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 19 Ionawr 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4896
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi y bydd rhaid i’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd gael sylfaen llywodraethu corfforaethol effeithiol er mwyn gallu creu Mudiadau Cymunedol annibynnol.
2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar y diwedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwerthusiad priodol yn rhan annatod o’r holl brosiectau Cymunedau yn Gyntaf er mwyn mesur llwyddiant ac i allu gwneud gwelliannau yn ystod oes y prosiectau.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad oedd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wreiddiol yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Cymunedau yn Gyntaf wedi dod i’r casgliad ‘ni all rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ddangos gwerth am arian’.
Gellir gweld adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus drwy fynd i:
http://www.assemblywales.org/cr-ld7923.pdf
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi, yn ei adroddiad ‘Regenerating Communities First Neighbourhoods’, mai gwelliannau bychain yn unig a ganfuwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.
Gellir gweld adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree drwy fynd i:
http://www.jrf.org.uk/sites/files/jrf/communities-regeneration-Wales-full.pdf (Saesneg yn unig)
6. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd yn cyflawni gwell canlyniadau na’i rhagflaenydd.
7. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan ei rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd dargedau clir, perthnasol a mesuradwy i fynd i’r afael â thlodi.
NDM4897
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt c), dileu popeth ar ôl ‘ymhellach,’ a rhoi yn ei le:
‘a'r ffordd orau o wneud hynny yw drwy gyflawni Rhaglenni Ewropeaidd yn effeithlon ac yn effeithiol a sicrhau'r budd mwyaf posibl i bobl Cymru'.
2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod efallai nad yw polisi Ewropeaidd y DU er budd gorau Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r capasiti i gyflwyno sylwadau’n uniongyrchol i sefydliadau’r UE.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r newid arfaethedig i fonitro canlyniadau yn hytrach nag allbynnau a’r cyfle y gallai hyn ei greu i wella effaith y rownd nesaf o ariannu strwythurol.
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl arian sy’n weddill yn y rownd ariannu bresennol yn cael ei dargedu at gynlluniau sy’n creu swyddi cynaliadwy.