Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 24 Chwefror 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Chwefror 2009
NDM4146 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Chwefror 2009 mewn perthynas â’r gorchymyn drafft, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Eiddo) (Cymru) 2009 2. Yn cymeradwyo bod y gorchymyn drafft, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Eiddo) (Cymru) 2009 yn cael ei wneud yn unol ag:a) y drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Ionawr 2009; a
b) y Memorandwm Esboniadol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno 21 Ionawr 2009.
NDM4147 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r cynnydd a wnaed wrth weithredu’r camau sy’n deillio o’r ddogfen Y Trydydd Dimensiwn - Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer y Cynllun Sector Gwirfoddol;
2. Yn nodi’r camau a gymerwyd er mwyn rhoi Cynllun y Sector Gwirfoddol ar waith yn ystod y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2008.
3. Yn nodi bod Adroddiad Blynyddol Cynllun y Sector Gwirfoddol wedi’i gyhoeddi.
Mae’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer y Cynllun Sector Gwirfoddol ar gael drwy’r ddolen a ganlyn:
h
ttp://wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/voluntarysector/publications/thethirddimension/?lang=cy
Mae Adroddiad Blynyddol Cynllun y Sector Gwirfoddol ar gael drwy’r ddolen a ganlyn:
h
ttp://wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/voluntarysector/publications/volsecreport0708/?skip=1&lang=cy
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 19 Chwefror 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4147
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder y gallai’r hinsawdd economaidd bresennol arwain at gynnydd yn y galw ar y Trydydd Sector a gostyngiad yn y cyllid sydd ar gael.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i symleiddio'r broses gyllido ar gyfer y Sector Gwirfoddol drwy gyfuno ffrydiau ariannu unigol a hyrwyddo trefn gyllido tair blynedd fel y norm ar draws y sector cyhoeddus.