Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y Dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Chwefror 2014
NNDM5461 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio sy’n ymwneud â mesurau sy’n effeithio ar fusnesau: cyffredinol, trafnidiaeth, yr amgylchedd, addysg a hyfforddiant, mesurau i leihau’r baich ar awdurdodau cyhoeddus a deddfwriaeth nad yw o ddefnydd ymarferol mwyach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill documents – Deregulation Bill [HC] 2013-14 – UK Parliament