24/03/2017 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 24/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/03/2017

​Cynigion i'w Trafod yn y Dyfodol

Cynnig a gyflwynwyd ar 24 Mawrth 2017

NNDM6279 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu:

a) i NDM6267, a gyflwynwyd gan David Rees, gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 28 Mawrth 2017; a

b) i Ddadl Fer NDM6266, a gyflwynwyd gan Dawn Bowden, gael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 29 Mawrth 2017.