Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 24 Mehefin 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 22 Ebrill 2014
NDM5531 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried darpariaethau'r Bil Dadreoleiddio, sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth, iechyd a lles anifeiliaid a thai, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ebrill 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Mae copi o'r Bil Dadreoleiddio i'w weld yma:
Dogfennau'r Bil – Y Bil Dadreoleiddio [Ty’r Cyffredin] 2013-14 – Senedd y DU
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 19 Mehefin 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5531
1. Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:
‘ar yr amod fod y pwerau i gychwyn yr Atodlenni yn y Bil sy'n ymdrin â diddymu yn cael eu rhoi i Weinidogion Cymru yn hytrach na'r Ysgrifennydd Gwladol'