24/09/2013 - Cynigion a Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 24 Medi 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Mai 2013

NDM5248 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2013.

I weld copi o’r Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2013-14/antisocialbehaviourcrimeandpolicingbill/documents.html

NDM5249 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â chyflwyno Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned, Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, Hysbysiadau Cau, a diwygio Deddf Cwn Peryglus 1991, i’r  graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2013.

I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill Documents – Anti-social Behaviour, Crime and Policing Bill 2013-14 – UK Parliament Website

Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Mai 2013

NDM5253 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill Documents – Anti-social Behaviour, Crime and Policing Bill 2013-14 – UK Parliament Website

NDM5254 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n cymhwyso’r fframwaith rheolaethau cyllid cyfalaf yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i Brif Gwnstabliaid yng Nghymru i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill Documents – Anti-social Behaviour, Crime and Policing Bill 2013-14 – UK Parliament Website

Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Medi 2013

NDM5300 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol  Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru).

Gosodwyd Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 29 Ebril 2013.

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 19 Gorffennaf 2013.

NDM5301 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog  26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Medi 2013

NDM5308 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Menter a Busnes yn lle Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru).