24/10/2017 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 17/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 24 Hydref 2017


Cynnig a gyflwynwyd ar 17 Hydref 2017

 

NDM6538 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Hydref 2017.​

NDM6539 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Hydref 2017.

NDM6540 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyddodi Gwastraff Heb Awdurdod (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Hydref 2017