Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 24 Tachwedd 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Tachwedd 2009
NDM4331 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer datblygu sgiliau ar gyfer busnesau drwy Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru a Rhaglen Datblygu'r Gweithlu; a
2. Yn canmol cymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer sgiliau yn y gweithle yn ystod y dirwasgiad.
Gellir gweld y strategaeth Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru drwy ddefnyddio'r cyswllt canlynol:
h
ttp://wales.gov.uk/topics/educationandskills/policy_strategy_and_planning/skillsthatforwales/?skip=1&lang=cy
NDM4332 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu’r camau sy’n parhau i gael eu cymryd i weithredu Rhaglen Cymru’n Un Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Gallwch weld dogfen Cymru’n Un ar y ddolen ganlynol:
h
ttp://wales.gov.uk/about/programmeforgovernment/1wales/?lang=cy
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 19 Tachwedd 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4331
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Yn lle ‘cefnogi’ rhoi ‘nodi’
2. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
‘Yn credu bod angen i strategaeth sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru ganolbwyntio’n gliriach ar anghenion economi Cymru ac yn enwedig creu mwy o fentrau cynhenid.’
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu na fydd y 5% o enillion effeithlonrwydd i’r cyllidebau ôl-16 ac addysg uwch sy’n cael ei gynnig yn helpu Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno’i strategaeth sgiliau ac mae’n galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wrthdroi’r cynnig hwn.
NDM4332
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Dileu popeth ar ôl “Cynulliad Cenedlaethol Cymru:” a rhoi yn ei le:
“Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno gwelliannau sylweddol a amlinellwyd yn y rhaglen Cymru’n Un, yn arbennig y rhai hynny sy’n ymwneud â’r economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.”
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu na fydd y Rhaglen Cymru’n Un yn cael ei chyflawni oni cheir newid mewn ffocws wrth baratoi’r gyllideb derfynol.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru, er mwyn bod mewn sefyllfa well i gyflawni’r ymrwymiadau iechyd yn y rhaglen Cymru’n Un, ymchwilio i’r honiad nad yw hyd at un rhan o bump o’r gyllideb iechyd yn cael ei gwario’n effeithiol.
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru adolygu ei rhaglen Cymru’n Un yng ngoleuni’r amgylchiadau economaidd presennol.