25/01/2011 - Cynigion heb Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y Dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 25 Ionawr 2011

NNDM4642 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud ag atebolrwydd llywodraeth leol o ran cyflogau, dileu’r ddyletswydd i hybu democratiaeth leol, dileu’r ddyletswydd ddeisebau, cyflawni dyletswyddau digartrefedd drwy’r sector rhentu preifat a diwygio’r Awdurdod Gwasanaethau Tenantiaid  yn Rhan(nau) 1 a 6 o’r Mesur Seneddol Lleoliaeth, fel y’i cyflwynwyd i Dy’r Arglwyddi ar 13 Rhagfyr 2010, i’r graddau y mae’r darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).

I weld copi o’r Mesur Seneddol Lleoliaeth i:

http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html

NNDM4647 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau hynny sy'n ymwneud â Phaneli'r Heddlu a Throseddu yn Rhan 1 o Fesur Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol, fel y’i cyflwynwyd i Dy’r Cyffredin ar 30 Tachwedd 2010, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).

I weld copi o’r mesur diwygio'r heddlu a chyfrifoldeb cymdeithasol ewch i:

http://services.parliament.uk/bills/2010-11/policereformandsocialresponsibility.html

NNDM4648 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau hynny sy'n ymwneud â phwerau ymafael, cadw a fforffedu o dan is-ddeddfau rheoli da a llywodraethu yn Rhan 4 o Fesur Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol, fel y’i cyflwynwyd i Dy’r Cyffredin ar 30 Tachwedd 2010, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).

i weld copi o’r  mesur diwygio'r heddlu a chyfrifoldeb cymdeithasol ewch i:

http://services.parliament.uk/bills/2010-11/policereformandsocialresponsibility.html