Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 25.03.09
Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Mawrth 2009
Dadl Fer
NDM4183 Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Diogelwch ar y Ffyrdd: Y Ffyrdd a’r Llwybrau sydd angen eu hatgyweirio.
NDM4184 Gareth Jones (Aberconwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu, Rhoi'r Cytundeb Llwyth Gwaith Athrawon ar Waith, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2009.
Noder: Ymateb y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2009.
NDM4185 Alun Davies (Canolbarth ar Gorllewin Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ei Ymchwiliad i’r Adolygiad o Echel 2 Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 - 2013 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2009.
Noder: Ymateb y Gweinidog dros Faterion Gwledig a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2009.
NDM4186 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1) Yn gresynu bod cyn lleied o’r Sector Cyhoeddus yng Nghymru wedi manteisio ar fenthyciadau Banc Buddsoddi Ewrop.
2) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y benthyciadau hyn er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r dirwasgiad presennol.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 20 Mawrth 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4186
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi na fydd mesurau o’r fath i helpu i fynd i’r afael â’r dirwasgiad yn effeithiol oni chânt eu gweithredu ar y cyd â strategaeth ehangach i wella sefyllfa ariannol y sector cyhoeddus, yn cynnwys ymgysylltu’n fwy trylwyr â’r sector preifat a’r trydydd sector er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ar gael ar gyfer prosiectau cyfalaf.