25/09/2012 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 25 Medi 2012

Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Medi 2012

NDM5047 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Grwp Cynghori Annibynnol, Tuag at Deddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol.

Gellir gweld y ddogfen Tuag at Deddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol drwy’r ddolen ganlynol:

http://wales.gov.uk/topics/planning/planningresearch/publishedresearch/towardsawelshplanningact/?skip=1&lang=cy (Saesneg yn unig)

Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Mehefin 2012

NDM5012 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio, fel y’i cyflwynwyd yn Nhy’r Cyffredin ar 23 Mai 2012 sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf y Diwydiant Dwr 1991, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mehefin 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

I weld copi o’r Bil ewch i:

Bill documents — Enterprise and Regulatory Reform Bill 2012-13 — UK Parliament

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 20 Medi 2012

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5047

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dreialu system achredu ar gyfer asiantau cynllunio.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella capasiti’r system gynllunio drwy ddatblygu un Gwasanaeth Cyngor a Hyfforddiant Cynllunio Cenedlaethol i gynorthwyo adrannau cynllunio lleol i hyfforddi a datblygu eu staff.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth yr oedi sylweddol gan Lywodraeth Cymru cyn cyflwyno ei Bil Cynllunio.