Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 25 Tachwedd 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Tachwedd 2014
NDM5626 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Hawliau Defnyddwyr sy'n ymwneud â ffioedd asiantaethau gosod, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Hydref 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Cewch gopi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/consumerrights.html (Saesneg yn unig)
NDM5627 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Cewch gopi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/smallbusinessenterpriseandemployment.html (Saesneg yn unig)
NDM5631 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) effaith a goblygiadau'r diwygiadau lles yng Nghymru; a
b) y cynlluniau diweddaraf sydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer gweithredu credyd cynhwysol.
Mae'r cynlluniau diweddaraf sydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer gweithredu credyd cynhwysol i'w gweld drwy'r ddolen hon: https://www.gov.uk/government/news/plans-announced-for-accelerated-rollout-of-universal-credit-after-success-in-north-west (Saesneg yn unig)
NDM5632 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru).
Gosodwyd Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 30 Mehefin 2014.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 14 Tachwedd 2014.
NDM5633 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
NDM5634 Jane Hutt AC (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:
1. Yn sefydlu Pwyllgor ar amddiffyn plant rhag cael eu curo ar sail cosb resymol; a
2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw craffu ar y polisi a'r ystyriaethau deddfwriaethol sy'n ymwneud â chael gwared â'r amddiffyniad "cosb resymol" mewn cysylltiad â churo plentyn, yn sgîl adran 58 o Ddeddf Plant 2004. Bydd y Pwyllgor yn cael ei ddiddymu yn dilyn y ddadl ar ei adroddiad.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 20 Tachwedd 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5631
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt a) a rhoi yn ei le:
y mabwysiadwyd y diwygiadau lles a weithredwyd gan Llywodraeth y DU i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn y system budd-daliadau ac i sicrhau na all unrhyw un ennill mwy ar fudd-daliadau nag y mae'r teulu cyffredin yn ennill drwy fynd allan i weithio; a
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai nod credyd cynhwysol yw lleihau tlodi, drwy wneud i waith dalu, a helpu hawlwyr a'u teuluoedd i fod yn fwy annibynnol.
3. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ddiddymu'r dreth ystafell wely.
4. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn penderfynu bod mesurau i greu swyddi yn fwy effeithiol na diwygiadau lles cosbol fel ffordd o greu cymunedau sy'n ffynnu.
5. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y byddai rhewi budd-dal plant yn niweidiol i'r gôl o ddileu tlodi plant.