26/02/2008 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 26 Chwefror 2008

Cynigion a Gyflwynwyd ar 19 Chwefror 2008

NDM3869 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu potensial ein diwylliant unigryw er mwyn hyrwyddo Cymru gartref ac mewn marchnadoedd allanol.

Anfonwyd gopi o " Cultural Tourism - A Position Paper”  i Aelodau’r Cynulliad drwy’r e-bost ar 19 Chwefror 2008.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 21 Chwefror 2008

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM3869

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu popeth ar ôl ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru’, a rhoi’r pwyntiau a ganlyn yn lle hynny:

1. Yn nodi gyda gofid y bydd cyllid annigonol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y Celfyddydau a Llenyddiaeth yn cael effaith andwyol ar ddatblygu rhagor ar y potensial i hyrwyddo Cymru a’n diwylliant unigryw gartref ac mewn marchnadoedd allanol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gryfhau’r gefnogaeth a roddir i’r Iaith Gymraeg, sy’n gwneud cyfraniad enfawr at ddiwydiant twristiaeth ddiwylliannol Cymru.

3. Yn nodi gyda gofid bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi methu â sicrhau buddion sylweddol i Gymru yn sgil statws Lerpwl fel Dinas Diwylliant Ewrop.