Cynigion a gwelliannau i'w trafod yn y dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 26 Chwefror 2015
NNDM5712
Mick Antoniw
Jocelyn Davies
Aled Roberts
Nick Ramsay
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod technoleg ar-lein ynghyd â hysbysebu dwys wedi ysgogi twf hapchwarae yng Nghymru ac yn nodi:
a) bod hapchware ar gael i holl boblogaeth Cymru 24/7;
b) y gall hapchwarae ddod yn gaethiwed sy'n niweidiol yn gymdeithasol, gan gyfrannu at dlodi, iechyd a phroblemau cymdeithasol;
c) yn nodi bod adnabod caethiwed a darparu cymorth yn gynnar yn hanfodol er mwyn atal pobl rhag ddod yn gaeth i hapchwarae;
d) bod y twf mewn hapchwarae ar-lein a pheiriannau hapchwarae ods sefydlog wedi troi hapchwarae yn y DU i mewn i ddiwydiant gwerth biliynau o bunnoedd; a
e) bod amgylchedd rheoleiddio hapchwarae yn gymharol ysgafn.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datblygu a gweithredu strategaeth i fynd i'r afael â'r canlyniadau cymdeithasol a iechyd sy'n deillio o hapchwarae;
b) ymgysylltu â Llywodraeth y DU i drafod datganoli rhagor o bwerau dros drwyddedu peiriannau hapchwarae; ac
c) ymgysylltu â'r diwydiant gamblo a'r Ymddiriedolaeth Hapchwarae Cyfrifol i sicrhau bod cyfran briodol o'r cyllid yn cael ei wario yng Nghymru i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â bod yn gaeth i hapchwarae.