26/03/2014 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 26 Mawrth 2014

Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Mawrth 2014

NDM5464

Mick Antoniw (Pontypridd)

Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn ymrwymo i chwarae ei ran lawn mewn materion Ewropeaidd; ac yn benodol:

a) yn cydnabod y gwerth i Gymru ac i'r UE yn sgîl ymgysylltu cadarnhaol Cymru yn Ewrop;

b) yn defnyddio sgiliau, profiad ac arloesedd y Llywodraeth a phobl Cymru i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, ffyniant economaidd a llywodraethu democrataidd ledled Ewrop.

Cefnogir gan:

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Mawrth 2014

Dadl Fer

NDM5476 Julie James (Gorllewin Abertawe): Denu Merched i Wyddoniaeth – yr achos dros fanteisio i'r eithaf ar botensial gwyddoniaeth yng Nghymru

Cynigion a gyflwynwyd ar 19 Mawrth 2014

NDM5477 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn Lloegr i rewi'r dreth gyngor am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

2. Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth yr Alban wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn yr Alban i rewi'r dreth gyngor ar gyfer 2014/15; a bod rhewi o'r fath wedi bod ar waith ers 2008/09.

3. Yn credu bod rheidrwydd moesol ar awdurdodau lleol i wario arian cyhoeddus gyda gofal a doethineb; sicrhau bod cyfraddau'r dreth gyngor mor isel â phosibl i drigolion.

4. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod gweithredu cynllun tebyg i un Lloegr, sy'n creu trothwy refferendwm o 2% o ran cynnydd y dreth gyngor.

5. Yn gresynu ymhellach at y cynnydd cyfartalog o 4.2% yn y dreth gyngor o ran awdurdodau lleol Cymru ar gyfer 2014/15, a bod biliau'r dreth gyngor wedi cynyddu dros 150% yng Nghymru ers 1997/98, ac yn credu bod cynnydd andwyol o'r fath wedi rhoi pwysau diangen ar aelwydydd sydd dan bwysau.

NDM5478 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cyfraddau disgwyliad oes is mewn cymunedau o amddifadedd;

2. Yn cydnabod rôl deddfwriaeth, trethiant a pholisi cyhoeddus o ran hyrwyddo iechyd da a mynd i’r afael â'r cysylltiad rhwng tlodi ac afiechyd; a

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi ac afiechyd.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 20 Mawrth 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5477

1. Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi’r sefyllfa ariannol anodd sy’n wynebu llywodraeth leol a’r tebygolrwydd o bwysau parhaol ar gyllidebau awdurdodau lleol.

2. Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod swyddogaeth y dreth gyngor o ran darparu ffrwd refeniw i gynnal swyddi a gwasanaethau lleol ac yn credu bod lefelau’r dreth gyngor yn fater i awdurdodau lleol unigol fel rhan o’u proses cyllideb.

3. Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu’r camau sydd wedi cael eu cymryd i ddiogelu’r cartrefi tlotaf yng Nghymru rhag toriadau Llywodraeth y DU i gymorth y dreth gyngor.

4. Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 5.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 21 Mawrth 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5477

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn credu er bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am bennu eu lefelau treth gyngor eu hunain, a’u bod yn atebol i’w hetholwyr am hynny, y dylent wrth wneud hynny ystyried amgylchiadau economaidd talwyr y dreth gyngor yn eu hardal.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 4.

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r cynnig yn y Bil Tai (Cymru) i gynyddu’r dreth gyngor ar dai gwag, a oedd yn argymhelliad allweddol yn nadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar dai gwag ym mis Chwefror 2013.

Mae trawsgrifiad o ddadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar dai gwag ar gael yn:

http://www.assemblywales.org/docs/rop_xml/130220_plenary_bilingual.xml

NDM5478

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod y toriadau termau real i gyllideb GIG Cymru yn peryglu gwell canlyniadau iechyd y cyhoedd, yn enwedig i’r rheini sy’n byw mewn cymunedau o amddifadedd.

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r ffordd y mae’n cynllunio ac yn gwerthuso cynlluniau iechyd y cyhoedd er mwyn cyflawni gwell gwasanaethau a gwasanaethau mwy effeithiol ar gyfer cymunedau o amddifadedd.

3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

O gofio’r cysylltiad rhwng tlodi ac afiechyd, yn croesawu’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â thlodi, gan gynnwys cynyddu’r isafswm cyflog cenedlaethol a’r manteision treth i’r rheini ar incymau isel.

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r amserlen ar gyfer cyflwyno’r bil iechyd y cyhoedd arfaethedig, ac i egluro sut y bydd y ddeddfwriaeth hon yn mynd i’r afael â’r lefelau presennol o dlodi ac afiechyd yng Nghymru.