26/04/2012 - Cynigion heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w trafod yn y Dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 26 Ebrill 2012

NNDM4974

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) yr angen i gael trethi teg a chyfrifoldeb cymdeithasol yn sector ariannol y DU;

b) y potensial i gyflawni hyn drwy gyfrwng treth ar drafodion ariannol neu ‘dreth Robin Hood’ o 0.05 y cant ar fasnachu mewn cyfranddaliadau, bondiau, cyfnewid arian tramor a deilliadau, lle mae llawer ohono’n debyg i fetio mewn casino yn hytrach na chreu swyddi a buddsoddiad hirdymor;

c) y gellid ail-fuddsoddi’r derbyniadau posibl o rhwng £20 i £30 biliwn o’r dreth ar drafodion ariannol mewn mynd i’r afael â thlodi a mesurau newid hinsawdd;

2. Yn credu bod angen i’r diwydiant gwasanaethau ariannol gael ei weld yn ysgwyddo ei gyfran o gyfrifoldeb am ein hanawsterau economaidd presennol; a

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i wneud sylwadau i Lywodraeth y DU i weithredu’r dreth ar drafodion ariannol, o gofio’r gefnogaeth eang ymysg Llywodraethau eraill Ewrop am fesur o’r fath.