26/11/2013 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 26 Tachwedd 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Mai 2013

NDM5247 Gwenda Thomas (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gofal, sy’n ymwneud â threfniadau cyfatebol y DU ar gyfer lleoli oedolion ar draws ffiniau, trefniadau i sicrhau parhad yn y gofal i oedolion yn achos methiant gan y darparwr ac i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gydweithredu â’r Awdurdod Ymchwil Iechyd, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Gorffennaf 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

I weld copi o’r Bil ewch i:

Bill documents — Care Bill [HL] 2013-14 — UK Parliament

Cynigion a gyflwynwyd ar 9 Hydref 2013

NDM5331 Gwenda Thomas (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM5247, y darpariaethau pellach hynny yn y Bil Gofal sy’n ymwneud â threfniadau cyfatebol y DU ar gyfer lleoliadau trawsffiniol oedolion ac ôl-ofal iechyd meddwl ar gyfer pobl, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.   

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

I weld copi o’r Bil ewch i:

Bill documents — Care Bill [HL] 2013-14 — UK Parliament

Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Hydref 2013

NDM5342 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU wneud darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona, i ddiwygio’r eithriad ynghylch gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol ym mharagraff 12, Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

I weld copi o’r Bil ewch i:

Bill documents – Anti-social Behaviour, Crime and Policing Bill [HC] 2013-14 – UK Parliament

Cynigion a gyflwynwyd ar 19 Tachwedd 2013

NDM5364 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2013.

NDM5365 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2013.

NDM5366 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau eraill) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2013.

NDM5367 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod y manteision i Gymru pe bai’r Deyrnas Unedig yn parhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Cynigion a gyflwynwyd ar 25 Tachwedd 2013

NDM5375 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jocelyn Davies (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Lindsay Whittle (Plaid Cymru).

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 21 Tachwedd 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5367

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod bod angen ailnegodi ein perthynas bresennol â’r UE fel y gall Cymru a'r DU fanteisio ar Undeb Ewropeaidd sy’n canolbwyntio'n fwy ar faterion economaidd.

2. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu, os bydd refferendwm yn cael ei gynnal ynghylch a ddylai’r DU aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, y dylai canlyniad Cymru gyfan gael ei gofnodi ar wahân.

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:

Yn nodi bod 160,000 o swyddi Cymru yn dibynnu ar y DU yn aros yn aelod o’r UE; bod Cymru’n elwa o £144 miliwn y flwyddyn o fod yn aelod o'r UE; a bod dros 10,000 o gwmnïau yng Nghymru yn masnachu gyda gwledydd eraill yn yr UE bob blwyddyn, sy'n dangos pwysigrwydd cael mynediad i'r farchnad sengl a threfniadau masnach rydd yr UE gyda thrydydd partïon ar gyfer swyddi a'r economi yng Nghymru.

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:

Yn croesawu rôl yr UE yn diogelu ein hamgylchedd fel arweinydd byd wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a llygredd trawsffiniol, a phwysigrwydd y cydymrwymiadau allweddol yn nhargedau 20-20-20 i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau nwyon ty gwydr a chynyddu’r gyfran o’r ynni a ddefnyddir yn yr UE sy’n cael ei chynhyrchu o adnoddau adnewyddadwy.

5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:

Yn croesawu cydweithrediad Cymru ag Europol ac Eurojust, a'i gallu i ddefnyddio'r Warant Arestio Ewropeaidd fel arf, i ddiogelu dinasyddion Cymru rhag troseddau.

6. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:

sy’n cynnwys gwneud Cymru yn wlad fwy llewyrchus, mwy cynaliadwy a mwy diogel.