Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 26 Tachwedd 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Tachwedd 2014
NDM5628 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)
Gosodwyd y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 15 Gorffennaf 2014.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 14 Tachwedd 2014.
Cynigion a gyflwynwyd ar 19 Tachwedd 2014
Dadl Fer
NDM5629 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Pobl hŷn a gwaith: cydnabod cyfraniad pobl hŷn yn y gweithlu ledled Cymru.
Dadl fer
NDM5635 Nick Ramsay (Mynwy)
Cŵn Tywys Cymru: rhyddid i symud i bobl ddall a rhannol ddall yng Nghymru.
I godi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cŵn Tywys Cymru yng Nghymru a cheisio barn Llywodraeth Cymru ynghylch beth arall y gellir ei wneud i gefnogi pobl sydd wedi colli eu golwg.
NDM5637 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2014.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 19 Tachwedd 2014.
NDM5638 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd adeiladau crefyddol Cymru i dreftadaeth genedlaethol Cymru.
2. Yn croesawu'r Cynllun Gweithredu ar Dwristiaeth Ffydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, a'r gydnabyddiaeth bod gan adeiladau crefyddol rôl o ran denu ymwelwyr i Gymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chymunedau ffydd a rhanddeiliaid eraill i greu cofrestr o adeiladau crefyddol pwysicaf Cymru fel y gallant gael eu diogelu'n briodol ar gyfer y dyfodol.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 20 Tachwedd 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5638
1. Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pwysigrwydd adeiladau crefyddol yn cael ei ymgorffori o fewn y Bil Treftadaeth.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 21 Tachwedd 2014
NDM5638
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a gweithredu strategaeth integredig i hyrwyddo llwybrau twristiaeth ffydd megis y Ffordd Sistersaidd a denu mwy o ymwelwyr i fannau addoli yng Nghymru.