Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 27 Ionawr 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 20 Ionawr 2009
NDM4116
Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol 2007/08.
Cafodd copi o’r Adroddiad Blynyddol ei ebostio at holl Aelodau’r Cynulliad ar 20 Ionawr 2009.
Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 22 Ionawr 2009
NDM4116
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn derbyn barn y Prif Arolygydd bod yna ‘amrywiadau annerbyniol mewn perfformiad’.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i amlinellu sut y bydd yn mynd i’r afael â’r ‘amrywiadau annerbyniol mewn perfformiad’ y tynnwyd sylw atynt gan y Prif Arolygydd.