27/01/2015 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 27/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/02/2015

Cynigion a gwelliannau i'w trafod yn y dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 27 Ionawr 2015

NNDM5683 Simon Thomas (Gorllewin a Chanolbarth Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) diwrnod cofrestru pleidleiswyr Bite the Ballot ar 5 Chwefror ac wythnos genedlaethol o weithgareddau rhwng 2 a 8 Chwefror;

b) adroddiad y Comisiwn Etholiadol, 'The quality of the 2014 electoral registers in Great Britain', a ganfu nad oedd 49% o bobl ifanc 16-17 oed wedi cofrestru i bleidleisio.

c) adroddiad cynnydd y Comisiwn Etholiadol, 'Dadansoddiad o'r Arbrawf Cadarnhau Byw yng Nghymru a Lloegr', a ganfu bod y gyfradd baru i bobl rhwng 16 a 17 oed sydd wedi cofrestru i bleidleisio'n unigol wedi gostwng o 86% i 52%; ac

d) llwyddiant menter ysgolion Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon a wnaeth arwain at ychwanegu 57,000 o bobl ifanc (tua 50% o'r grŵp oedran) at y gofrestr.

2. Yn gresynu at y ffaith bod nifer y bobl sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad wedi bod yn gostwng ac yn cefnogi camau i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth;

3. Yn galw am gamau i rymuso swyddogion cofrestru i wella prosesau rhannu data, cynyddu nifer y bobl sydd wedi'u cofrestru o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol – yn enwedig etholwyr ifanc a myfyrwyr -a sicrhau lefelau uwch o gyfranogiad ymhlith pobl ifanc.

Mae adroddiad 'The quality of the 2014 electoral registers in Great Britain' gan y Comisiwn Etholiadol ar gael yma: http://www.electoralcommission.org.uk/__data/assets/pdf_file/0005/169889/Completeness-and-accuracy-of-the-2014-electoral-registers-in-Great-Britain.pdf (Saesneg yn unig)

Cefnogwyd gan

Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

Leanne Wood (Canol De Cymru)

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Keith Davies (Llanelli)

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)