Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 27 Chwefror 2008
Cynigion a gyflwynwyd ar 20 Chwefror 2008
Dadl Fer
NDM3871 Sandy Mewies (Delyn): Clamydia, yr epidemig tawel
NDM3872 Alun Davies (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ymchwiliad yr Is-bwyllgor i Dwbercwlosis mewn Gwartheg a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2008
NDM3873 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu ei pholisïau i hyrwyddo ac amddiffyn cymunedau yng Nghymru.
NDM3874 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y potensial i fesuryddion smart gynyddu effeithlonrwydd ynni, lleihau gollyngiadau carbon a helpu gyda thlodi tanwydd; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) Llunio strategaeth effeithiol i gyflwyno mesuryddion smart ledled Cymru; a
b) Parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno mandad cyn gynted ag sy’n bosibl ar gyfer gosod mesuryddion smart ym mhob cartref yng Nghymru.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 21 Chwefror 2008
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3873
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu popeth ar ôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a rhoi’r pwyntiau a ganlyn yn lle hynny
Yn cydnabod pwysigrwydd yr Heddlu o ran diogelu ein cymunedau ac yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gefnogi Heddluoedd Cymru, drwy ddeisebu Llywodraeth San Steffan, er mwyn sicrhau bod yr adnoddau llawn ganddynt i frwydro yn erbyn pob lefel o weithgarwch troseddol ac i’w codiad cyflog gael ei weithredu’n llawn ar unwaith.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu popeth ar ôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a rhoi’r pwyntiau a ganlyn yn lle hynny
Yn cydnabod pwysigrwydd Swyddfeydd Post o ran diogelu ein cymunedau ac yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i:
1. Cefnogi rhwydwaith cynaliadwy o Swyddfeydd Post drwy gyfeirio busnes Llywodraeth y Cynulliad drwy wasanaethau swyddfeydd post.
2. Cyhoeddi arweiniad i Awdurdodau Lleol ar y gefnogaeth y gallant ei darparu i wasanaethau swyddfeydd post.
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu popeth ar ôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a rhoi’r pwyntiau a ganlyn yn lle hynny
Yn cydnabod pwysigrwydd ysgolion o ran cefnogi a chynnal cymunedau a’u diwylliant.
4. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i rymuso cymunedau lleol drwy hyrwyddo cyfleoedd i bobl leol reoli amwynderau lleol.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 22 Chwefror 2008
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3873
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu popeth ar ôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a rhoi’r pwyntiau a ganlyn yn lle hynny
Yn cymeradwyo’r uchelgais a nodir yn Cymru’n Un
i ailadeiladu cyfansoddiad cymdeithasol, economaidd a diwylliannol cymunedau drwy raglen o weithgarwch ymarferol yn cynnwys cymorth ar gyfer yr Heddlu, rhwydwaith y Swyddfa Bost ac ysgolion cymunedol.
NDM3874
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
2. Yn croesawu treialu Mesuryddion Smart yn Sain Tathan.
3. Yn dilyn cyhoeddi Map Trywydd Ynni Adnewyddadwy uchelgeisiol Llywodraeth y Cynulliad, yn croesawu cynlluniau i ddatblygu Cynllun Effeithlonrwydd ac Arbed Ynni eleni.
4. Yn croesawu’r cyfleoedd a gynigir gan y Targed Gostwng Gollyngiadau Carbon (CERT) newydd i gefnogi gwelliannau o ran effeithlonrwydd ynni yng Nghymru.