27/05/2016 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 27/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2016

Cynigion a Gwelliannau i'w trafod yn y dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 27 Mai 2016

NNDM6017 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 7.1 sy'n ei gwneud yn ofynnol i ystyried cynnig i benodi aelodau'r Comisiwn heb fod yn fwy na 10 diwrnod ar ôl penodi'r Pwyllgor Busnes, er mwyn caniatáu i NNDM6018 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 8 Mehefin 2016.

NNDM6018 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 7.1, yn penodi Joyce Watson (Llafur Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Caroline Jones (UKIP Cymru) yn aelodau o Gomisiwn y Cynulliad.