Cynigion a gwelliannau i'w trafod yn y dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 27 Hydref 2015
NNDM5860 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6:
Yn atal rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5861 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 3 Tachwedd 2015.
NNDM5861 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cyhoeddi Bil Cymru drafft gan Lywodraeth y DU ar 20 Hydref 2015 ac yn anfodlon nad yw'r model cadw pwerau presennol yn bodloni argymhellion Rhan 2 Comisiwn Silk.
Mae'r Bil Cymru draft ar gael yn:
https://www.gov.uk/government/publications/draft-wales-bill-bil-cymru-drafft.cy
Rhan 2 Comisiwn Silk ar gael yn:
http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20140605075122/http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2014/03/Grymuso-a-Chyfrifoldeb-Pwerau-Deddfwriaethol-i-Gryfhau-Cymru.pdf
Cefnogir gan:
Elin Jones (Ceredigion)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)