Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 27 Tachwedd 2012
Cynigion a gyflwynwyd ar 31 Hydref 2012
Dadl Fer
NDM5083 Nick Ramsay (Mynwy): Asbestos mewn Ysgolion: Datgelu’r wybodaeth yn hytrach nac atal hawl rhieni i gael gwybod amdani.
Cynigion a gyflwynwyd ar 20 Tachwedd 2012
NDM5102 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnydd a wnaed mewn perthynas â datblygu cynaliadwy yn 2011-12, fel yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 20 Tachwedd 2012.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 22 Tachwedd 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5102
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith bod Adroddiad Blynyddol y Cynllun Datblygu Cynaliadwy wedi’i gyhoeddi, ac yn arbennigsylwadau’r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy.
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi argymhellion y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar waith, er mwyn sicrhau y rhoddir digon o sylw i feysydd fel amaethyddiaeth, diogelu'r cyflenwad bwyd a thwristiaeth yn y dyfodol.
3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi beirniadaeth y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy fod ‘rhai rhannau o’r adroddiad i’w gweld yn hyrwyddo arian a ddyrennir ac a werir ar gynlluniau yn hytrach na hyrwyddo’r canlyniadau a’r manteision i gynaliadwyedd sy’n deillio o’r cynlluniau hynny’, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y modd y mae’n asesu llwyddiant rhaglenni Llywodraeth Cymru ar draws pob adran, yn seiliedig ar ganlyniadau yn hytrach nag ar fewnbwn.
4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o gynnydd at Gymru gynaliadwy os gwnaiff sicrhau bod mwy o’r canlynol ar gael:
a) rhaglenni effeithlonrwydd ynni cartref fel Arbed;
b) rhaglenni sy'n annog cymunedau i fuddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy bach fel trydan dwr; ac
c) trafnidiaeth gyhoeddus integredig.
5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i drydanu, a’r effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar leihau allyriadau CO2 Cymru.
6. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o gynnydd at wella ei Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy yn 2012.
7. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Llywodraeth i ddod â chamau unioni ymlaen ar frys i adfer y 22 Dangosydd Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2012 sydd wedi dirywio neu nad ydynt wedi gwella.
Gellir gweld Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy 2012 yn:
http://wales.gov.uk/docs/statistics/2012/120829sdr1382012en.pdf (Saesneg yn unig)
8. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y prif ddangosydd Gwerth Ychwanegol Crynswth, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, yn cyfateb i 74% o gyfartaledd y DU yn 2010, yr isaf o blith y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr.
9. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu na ddefnyddir llawer ar ddangosyddion economaidd yn yr adroddiad i ystyried llwyddiant polisi Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
10. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pryderon parhaus y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr adroddiad.
11. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r argymhellion a wneir yn yr adroddiad gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar waith yn llawn.