27/11/2013 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/05/2019

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 27 Tachwedd 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Medi 2013

Dadl Fer

NDM5305 Julie James (Gorllewin Abertawe): Manteision Canmlwyddiant Dylan Thomas i Gymru

Cynigion a gyflwynwyd ar 20 Tachwedd 2013

Dadl Fer

Ni chyflwynwyd testun

NDM5370 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi ei bod yn adeg o newid o ran cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, sy'n ei gwneud yn ofynnol diwygio systemau.

2. Yn cydnabod:

a) y potensial i gydgynhyrchu wella cyflenwad gwasanaethau cyhoeddus yn sylweddol.

b) ymrwymiad presennol Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan asedau sy'n eiddo cyhoeddus y potensial i aros mewn perchnogaeth gymunedol yng Nghymru.

3. Yn gresynu:

a) nad oes digon yn cael ei wneud i sicrhau bod cymunedau'n ymwybodol o gynlluniau megis Trosglwyddo Asedau Cymunedol neu'r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol.

b) bod Cymru yn methu â rhannu llwyddiant yr Agenda Anghenion Cymunedol mewn rhannau eraill o'r DU.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) hyrwyddo cydgynhyrchu fel ffordd hyfyw o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn dilyn cyhoeddi canfyddiadau'r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.

b) archwilio dichonoldeb mabwysiadu agweddau pellach ar y Ddeddf Lleoliaeth yng Nghymru.

Mae linc i'r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus ar gael yn http://new.wales.gov.uk/topics/improvingservices/public-service-governance-and-delivery/?skip=1&lang=cy

Ceir linc i'r Ddeddf Lleoliaeth yn http://new.wales.gov.uk/topics/improvingservices/public-service-governance-and-delivery/?skip=1&lang=cy

NDM5371 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn mynegi pryder ynghylch dyfodol gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Llwynhelyg.

2. Yn nodi'r effaith y byddai absenoldeb gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn ei chael ar wasanaethau craidd eraill yn yr ysbyty, megis gofal pediatrig a gofal brys.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) cymryd camau gweithredu brys i sicrhau dyfodol gwasanaethau craidd yn Llwynhelyg; a

(b) sicrhau bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cyfathrebu ei gynlluniau ar gyfer cyfeiriad strategol y gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg mewn modd effeithiol a diamwys.

NDM5372 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi na fydd perfformiad Cymru yn erbyn PISA a mesuriadau perfformiad addysgol cenedlaethol a rhyngwladol eraill yn gwella digon i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru oni bai bod cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion o gefndir difreintiedig yn gwella'n sylweddol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i athrawon, penaethiaid a staff cymorth newydd a phresennol ar ymyriad cynnar i wella llythrennedd, rhifedd, presenoldeb ac ymddygiad er mwyn codi cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig.

3. Yn croesawu cytundeb cyllideb Plaid Cymru gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i fwy na dyblu'r cyllid a roddir fesul plentyn drwy'r Grant Amddifadedd Disgyblion.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cryfhau'r canllawiau ar y defnydd o'r Grant Amddifadedd Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon i godi cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio; a

b) cryfhau'r broses o fonitro’r defnydd o’r Grant Amddifadedd Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio at y diben a fwriadwyd.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 21 Tachwedd 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5370

1. Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau mwy o ymwybyddiaeth o gynlluniau megis Trosglwyddo Asedau Cymunedol a’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol

b) datblygu polisi asedau cymunedol cynhwysfawr sydd wedi’i deilwra ar gyfer anghenion Cymru.

2. Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 4b) a rhoi yn ei le:

sicrhau bod yr agendâu lleoliaeth a throsglwyddo asedau cymunedol yn ddiamau yn grymuso cymunedau ac nad ydynt yn cael eu defnyddio fel ffordd o breifateiddio gwasanaethau cyhoeddus.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 22 Tachwedd 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5372

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi’r cyllid ychwanegol fesul plentyn yn y Grant Amddifadedd Disgyblion a neilltuwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2014/15.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a gwella’r dangosyddion ar gyfer mesur anfantais ymhlith disgyblion ysgol yng Nghymru.

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod cyflwyno ‘Premiwm Disgybl’ yn un o brif ymrwymiadau maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac felly’n croesawu’r Grant Amddifadedd Disgyblion a gyflwynwyd yn dilyn cytundeb cyllideb 2012–13 rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru, a sicrhaodd £32.4 miliwn i helpu i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol.

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi’r cyhoeddiad ‘Dysgu gwersi o’r Grant Amddifadedd Disgyblion’ gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, a’i argymhellion.

Mae linc i’r cyhoeddiad ‘Dysgu gwersi o’r Grant Amddifadedd Disgyblion’ ar gael yn:

http://welshlibdems.org.uk/cy/page/education

5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod y Cynulliad hwn, ar 30 Mai 2012, wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid gwelliant gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i “sicrhau bod gwario’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei fonitro'n effeithiol er mwyn iddo gyflawni gwelliannau mewn cyrhaeddiad”.

http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-chamber-fourth-assembly-rop.htm?act=dis&id=234886&ds=5/2012

6. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

cyflwyno rhaglen monitro disgyblion unigol i fesur cynnydd disgyblion, gan alluogi ysgolion i hoelio’u hymdrechion ar y disgyblion hynny nad ydynt yn cyflawni eu potensial.