Cynigion a gwelliannau i'w trafod yn y dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 28 Ionawr 2016
NNDM5945
Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod rhwng 300 a 350 o bobl yn marw o ganlyniad hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru, gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai hunanladdiad yw'r prif achos o farwolaeth ymhlith pobl ifanc rhwng 20 a 34 oed.
2. Yn cydnabod bod pobl sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl diagnosis mewn perygl arbennig ac amcangyfrifir bod gan 90 y cant o bobl sy'n ceisio cyflawni hunanladdiad neu'n marw o ganlyniad i hunanladdiad un neu fwy o gyflyrau iechyd meddwl.
4. Yn credu bod angen gwneud mwy i annog pobl i siarad yn agored am hunanladdiad a theimladau hunanladdol, i godi ymwybyddiaeth a helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael i deimlo eu bod yn dioddef ar eu pen eu hunain.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwella'r broses o gasglu data i adnabod y rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf;
b) sicrhau bod cymorth dilynol ar gael i bobl sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ar ôl hunan-niwed neu ceisio cyflawni hunanladdiad;
c) darparu ffyrdd mwy effeithiol o gyfeirio pobl at wasanaethau gwrando ac eiriolaeth;
d) edrych ar gyflawni prosiectau megis y parth tawelwch yn Lerpwl sy'n darparu cyngor sydd ar flaen y gad mewn ffordd sy'n briodol i oedran ac sy'n apelio at bobl ifanc, ac enghreifftiau cenedlaethol a rhyngwladol eraill o arferion gorau; ac
e) asesu'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd unigolion sydd â salwch meddwl.
Cefnogir gan:
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)