Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 28 Chwefror 2017
Cynigion a gyflwynwyd ar 21 Chwefror 2017
NDM6241 Rebecca Evans (Gŵyr):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).
Gosodwyd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2016.
Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 10 Chwefror 2017.
NDM6242 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.