28/06/2016 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 21/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/06/2016

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 28 Mehefin 2016

Cynigion a gyflwynwyd ar 21 Mehefin 2016

NDM6034 Elin Jones (Ceredigion)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): addysg, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol.

NDM6035 Elin Jones (Ceredigion)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): newid yn yr hinsawdd, ynni, rheoli cyfoeth naturiol; cynllunio; lles anifeiliaid ac amaethyddiaeth.

NDM6036 Elin Jones (Ceredigion)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): diwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; y Gymraeg; cyfathrebu; darlledu a'r cyfryngau.

NDM6037 Elin Jones (Ceredigion)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd; trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth; sgiliau; a gwaith ymchwil a datblygu, gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth.

NDM6038 Elin Jones (Ceredigion)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth leol; tai; adfywio, cydlyniant a diogelwch cymunedol; trechu tlodi; cyfle cyfartal a hawliau dynol.

NDM6039 Elin Jones (Ceredigion)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cynnwys y meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.

NDM6040 Elin Jones (Ceredigion)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlol 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn i ystyried unrhyw fater a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.

NDM6041 Elin Jones (Ceredigion)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 yn sefydlu Pwyllgor Deisebau i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 23.

NDM6042 Elin Jones (Ceredigion)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i graffu ar waith y Prif Weinidog o safbwynt unrhyw fater sy'n berthnasol i'r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.

NDM6043 Elin Jones (Ceredigion)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 yn sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 22.

NDM6044 Elin Jones (Ceredigion)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3 yn cytuno y caiff y Pwyllgor Dros Dro ar Faterion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a sefydlwyd ar 15 Mehefin 2016, ei ailenwi'n Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Ei gylch gwaith yw cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.

NDM6045 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.

NDM6047 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 17 – Gweithredu Pwyllgorau' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2016; a

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

NDM6048 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno:

(a) Y dylid newid ei enw i "Senedd Cymru" ar y cyfle cyntaf; ac

(b) Y dylai gael ei adnabod yn answyddogol gan yr enw hwnnw hyd nes y gall enw o'r fath gael ei ffurfioli.

TYNNWYD YN ÔL

Cynigion a gyflwynwyd ar 28 Mehefin 2016

 
NDM6056 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion pwyllgorau eu hethol ohonynt fydd fel a ganlyn:

  1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Llafur;
  2. Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - UKIP;
  3. Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – Llafur;
  4. Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Plaid Cymru;
  5. Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Ceidwadwyr Cymreig;
  6. Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - Llafur;
  7. Y Pwyllgor Cyllid - Plaid Cymru;
  8. Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Plaid Cymru;
  9. Y Pwyllgor Deisebau - Llafur;
  10. Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Ceidwadwyr Cymreig;
  11. Y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn - Llafur;
  12. Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Llafur.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 23 Mehefin 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion

NDM6048
 
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai'r Cynulliad newid ei enw i adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol.

2. Yn gwahodd y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad i ystyried goblygiadau newid o'r fath a'r ffordd orau i'w roi ar waith.

TYNNWYD YN ÔL