Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 28 Medi 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 21 Medi 2010
NDM4538
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu’r cynnydd a wnaed ym maes datblygu cynaliadwy yn 2009-10 fel y nodwyd yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth y Cynulliad ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 21 Medi 2010.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 23 Medi 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4538
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu nad yw cymhorthdal Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y cyswllt hedfan rhwng y gogledd a'r de yn cyfateb i ddyheadau Cynllun Datblygu Cynaliadwy'r llywodraeth.
2. Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymeradwyo argymhelliad Comisiwn Datblygu Cymru yn Adroddiad Blynyddol 2009-2010 'ddim yn unig yn adrodd ar y cynnydd a wnaed ar y Prif Ddangosyddion Datblygu Cynaliadwy, ond ei fod hefyd yn cynnwys cyfres o fesurau ar effeithiolrwydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ôl ei hamcanion perfformiad ei hun (ar draws llywodraeth)'.
3. Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i fesur perfformiad Datblygu Cynaliadwy yn glir yn erbyn ymrwymiadau Cymru'n Un yn flynyddol ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad hwn.