Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 29 Ionawr 2008
Cynigion a Gyflwynwyd ar 22 Ionawr 2008
NDM3848
Carwyn Jones (Pen-y- Bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988:
Yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2008-2009 (Setliad Terfynol - Cynghorau) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ar ddydd Mawrth 22 Ionawr 2008.
NDM3849
Edwina Hart (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008.
Gosodwyd y Mesur arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 2 Gorffennaf 2007;
Caiff adroddiad y Pwyllgor ar y Mesur arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) ei osod gerbron y Cynulliad erbyn 25 Ionawr 2008.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 24 Ionawr 2008
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3848
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r effaith andwyol a gaiff y setliad cyllid ar gyfer llywodraeth leol ar ymdrechion i wella gwasanaethau’r rheng flaen.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu’r dull a ddefnyddir i gyfrifo’r Asesiad o Wariant Safonol.