Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 29 Ionawr 2013
Cynigion a gyflwynwyd ar 2 Hydref 2012
NDM5055 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus fel y’i cyflwynwyd yn Nhy’r Cyffredin ar 13 Medi 2012 sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i’r cynlluniau pensiwn newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill documents — Public Service Pensions Bill 2012-13 — UK Parliament
Cynigion a gyflwynwyd ar 11 Ionawr 2013
NDM5138 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â diddymu Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill documents — Enterprise and Regulatory Reform Bill — UK Parliament
NDM5139 Edwina Hart (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio ynghylch y gofyniad bod cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau yn darparu data cwsmeriaid i’r graddau y mae hyn yn rhan o gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/enterpriseandregulatoryreform/documents.html
Cynigion a gyflwynwyd ar 22 Ionawr 2013
NDM5154 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol(Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2013.