Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 29 Ionawr 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 21 Ionawr 2014
Dadl Fer
NDM5413 Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Cyflogaeth i Raddedigion - Atal y Draen Dawn i Loegr
Creu swyddi a chyfleoedd yng Nghymru i'r graddedigion gorau a mwyaf deallus o Brifysgolion Cymru
Cynigion a gyflwynwyd ar 22 Ionawr 2014
NDM5415 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad dilynol y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2013.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2014.
NDM5416 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r cynigion ar gyfer mewnfuddsoddi a amlinellwyd yn nogfen Ceidwadwyr Cymru ‘Destination Cymru’.
Mae ‘Cyrchfan Cymru’ ar gael yn:
http://www.welshconservatives.com/sites/www.welshconservatives.com/files/destinationcymru_0.pdf
NDM5417 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canfyddiadau'r Cynllun Bwyd Ysgol y byddai prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd yn arwain at welliannau cadarnhaol o ran iechyd, cyrhaeddiad addysgol a chydlyniant cymdeithasol ac yn helpu teuluoedd gyda chostau byw.
2. Yn nodi mai 21% yn unig o blant oed babanod yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn cael pryd bwyd ysgol am ddim a thua 24% yn unig o ddisgyblion oed cynradd yn 2012-13 a gymerodd frecwast ysgol am ddim.
3. Yn nodi y bydd Cymru yn cael dros £62 miliwn o gyllid refeniw canlyniadol Barnett ar gyfer 2014-16 a thros £4 miliwn o gyllid cyfalaf yn 2014-15 yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ar brydau ysgol am ddim i bob disgybl oed babanod yn Lloegr.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio cyllid canlyniadol Barnett i gyflwyno prydau ysgol am ddim yn gyffredinol i blant oed babanod yng Nghymru, er mwyn i bob plentyn bach gael pryd bwyd ysgol poeth, iach i hybu iechyd, addysg a lles disgyblion.
Mae'r Cynllun Bwyd Ysgol ar gael yma: http://www.schoolfoodplan.com/plan/
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 23 Ionawr 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5417
1. Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl 'Cynllun Bwyd Ysgol' a rhoi yn ei le: ‘bod plant sy’n bwyta bwyd maethlon yn dod ymlaen yn well yn yr ysgol’.
2. Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 4, dileu popeth ar ôl ‘refeniw canlyniadol Barnett’ a rhoi yn ei le: ‘yn y ffordd fwyaf effeithiol a sicr o wella safonau a lles ac i gyhoeddi rhaglen o’i bwriadau yng nghyswllt pob darpariaeth ar gyfer bwyd ysgol'.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 24 Ionawr 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5416
1. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ansawdd gwael y data a gasglwyd ar lefel genedlaethol (Cymru) ar gyfer Buddsoddi Uniongyrchol Tramor ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddarparu data cynhwysfawr ar Fuddsoddi Uniongyrchol Tramor gan gynnwys sectorau, tarddiad a gwerth.
2. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod amgylchiadau economaidd wedi newid yn sylweddol dros y ddau ddegawd diwethaf a bod yn rhaid i strategaeth Llywodraeth Cymru newid hefyd yn unol â hynny.
3. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad oes gan UK Trade & Investment ganolfan yng Nghymru na strategaeth ar gyfer Cymru er bod ganddynt un ar gyfer Lloegr a’r Alban.
4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ymchwiliad presennol y Pwyllgor Menter a Busnes i ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi.
Mae manylion ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes ar gael yn:
http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=8492
5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi sylwadau Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i’r Pwyllgor Menter a Busnes ar 14 Mawrth 2012 nad yw Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gael y brand yn gywir ar gyfer Cymru, ac yn gresynu nad oes dim strategaeth brandio wedi’i chyflwyno ers hynny.
Mae trawsgrifiad o gyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2012 ar gael yn:
http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=1307