Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 29 Chwefror 2012
Cynigion a gyflwynwyd ar 22 Chwefror 2012
Dadl Fer
NDM4923 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Cuts Watch Cymru
Bydd y ddadl hon yn tynnu sylw at waith Cuts Watch Cymru, sef rhwydwaith o nifer o fudiadau trydydd sector yng Nghymru, sy’n dilyn ac yn olrhain effaith toriadau i fudd-daliadau lles yng Nghymru.
NDM4924 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd mewnfuddsoddiad i economi Cymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â'r materion a amlygwyd gan Adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar Fewnfuddsoddiad yng Nghymru; a
3. Yn cymeradwyo sylwadau’r Athro Brian Morgan a ddywedodd ei bod yn debyg y bydd cau’r WDA a diddymu ‘brand WDA’ yn cael ei gofio fel y penderfyniad polisi gwaethaf a wnaed yng Nghymru mewn cof.
Gellir gweld Adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar Fewnfuddsoddiad yng Nghymru drwy fynd i:
http://www.publications.parliament.uk/pa/cm201012/cmselect/cmwelaf/854/85402.htm
Gellir gweld yr erthygl i’r wasg sy’n cynnwys sylwadau’r Athro Brian Morgan drwy fynd i:
NDM4925 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth adroddiadau diweddar am oedi mewn gwasanaethau i ddefnyddwyr gwasanaethau cadeiriau olwyn ac yn cydnabod yr effaith negyddol y gall y rhain eu cael ar ansawdd bywyd y rheini sy’n defnyddio cadeiriau olwyn;
2. Yn croesawu’r ‘ymchwiliad undydd ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru’ sydd i’w gynnal gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi mwy o flaenoriaeth i fynd i’r afael ag oedi o ran uwchraddio ac atgyweirio, ynghyd â darparu cadair olwyn yn y lle cyntaf, yn enwedig i blant; a
b) darparu diweddariad cynhwysfawr am y cynnydd at wella gwasanaethau cadeiriau olwyn ers Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar Wasanaethau Cadeiriau Olwyn yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2010.
Gwellir gweld Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar Wasanaethau Cadeiriau Olwyn yng Nghymru drwy fynd i:
http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-third-assembly/bus-committees/bus-committees-scrutiny-committees/bus-committees-third-hwlg-home/business-hwlg-inquiries/hwlg_3_-wheelchairs.htm
NDM4926 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir i iechyd y wlad gan rwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth y GIG sy’n gweithio gyda Chanolfannau Arbenigol rhanbarthol;
2. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi methu â chynnal hyder y cyhoedd a chlinigwyr; a
3. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:
a) cynnal rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth i sicrhau bod dinasyddion Cymru o fewn pellter diogel i’w gwasanaethau achub bywydau; a
b) cyfarwyddo Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Powys i weithio ar draws ffiniau gweinyddol i sicrhau bod anghenion meddygol a llawfeddygol pobl canolbarth Cymru yn cael eu diwallu’n ddiogel ac yn ddigonol gan Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 23 Chwefror 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4924
1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 1, rhoi "cymharol" ar ôl "Yn nodi pwysigrwydd…"
2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
2. Yn cydnabod bod angen i Gymru ddod yn lleoliad mwy deniadol i fuddsoddi; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar agweddau o fuddsoddi nad ydynt yn or-ddibynnol ar gefnogaeth uniongyrchol i fusnesau unigol.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau gwell seilwaith a lefelau uwch o sgiliau, yn ogystal â marchnata Cymru’n well, er mwyn denu rhagor o fewnfuddsoddiad.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 24 Chwefror 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4925
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i weithredu’n llawn argymhellion adroddiad 2010 y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar wasanaethau cadeiriau olwyn.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro ei gwariant ar wasanaethau cadeiriau olwyn i sicrhau bod arian sy’n cael ei wario ar blant a phobl ifanc yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol.
NDM4926
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl "Dda" a rhoi yn ei le:
"yn gweithio’n arloesol ac yn eang, er bod ganddo waith i’w wneud eto, i ymgysylltu ac egluro dyfodol gwasanaethau’r GIG i’r cyhoedd a chlinigwyr yn ei ardal leol; a"
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
3. Yn nodi ac yn llongyfarch y gwaith gwerthfawr a wneir gan ‘The aBer Group’ o ran cryfhau cyfranogiad y cyhoedd yn nyfodol Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais; a