Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 29 Ebrill 2008
Cynigion a gyflwynwyd ar 22 Ebrill 2008
NDM3920
Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig ynghylch Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)
Gosodwyd y Mesur arfaethedig ynghylch Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 15 Ebrill 2008;
Gosodwyd adroddiad ar ymchwiliad craffu’r Pwyllgor Menter a Dysgu ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) Draft gerbron y Cynulliad ar 21 Tachwedd 2008:
h
ttp://www.cynulliadcymru.org/cr-ld6874.pdf
.
NDM3921
Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig ynghylch Teithio gan Ddysgwyr (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80 (ii) (b) ac (c), sy’n codi o ganlyniad iddynt.
NDM3922
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu rhaglen weithredu Llywodraeth y Cynulliad ar ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 24 Ebrill 2008
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3922
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth y Cynulliad wedi methu darparu gwasanaethau gyda’r bobl yn hytrach nag ar eu cyfer.
2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn credu er mwyn darparu gwasanaethau sy’n wirioneddol ganolbwyntio ar y dinesydd y dylid datganoli mwy o bwer i lywodraeth leol a chymunedau a chanoli llai o bwer yn nwylo Gweinidogion Cymru.
3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn gresynu wrth agenda ganoli Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
NDM3920
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn gresynu na all y Mesur gynnwys darpariaeth i wahardd y rheol ‘tri am ddau’ ar fysiau ysgol.