Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 29 Medi 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 22 Medi 2009
1. NDM4279 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu niferoedd cynyddol y dysgwyr sy'n astudio cyrsiau ar gyfer Cymhwyster Bagloriaeth Cymru; a
2. Yn llongyfarch dysgwyr sy'n astudio ar gyfer Cymhwyster Bagloriaeth Cymru a'u hathrawon ar y canlyniadau gwych a gyhoeddwyd ym mis Awst 2009.
2. NDM4280 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi penderfyniad y Gweinidog dros Faterion Gwledig i weithredu gofynion Rheoliad y Cyngor 21/2004 ynghylch tagio electronig ar gyfer defaid a chofnodi defaid yn unigol sy'n sefydlu system o adnabod a chofrestru defaid a geifr ledled Ewrop;
2. Yn croesawu'r consesiynau cofnodi ar gyfer trydydd parti a sicrhawyd ar 14 Gorffennaf 2009
sy'n galluogi sefydliadau megis marchnadoedd a lladd-dai i ddarllen y tagiau unigol a rhoi'r wybodaeth yn ôl i geidwaid yr anifeiliaid sydd wedi eu bridio; a
3. Yn nodi'r ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r sector amaethyddol i sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu gweithredu gan amharu cyn lleied â phosibl ar y diwydiant.
Mae Rheoliad y Cyngor 21/2004 ar gael ar dudalennau:
http://eur-lex.europa.eu/LexUriServ/LexUriServ.do?uri=CONSLEG:2004R0021:20081014:EN:PDF
Mae'r consesiynau cofnodi ar gyfer trydydd parti ar gael ar dudalennau:
http://eur-lex.europa.eu/LexUriServ/LexUriServ.do?uri=OJ:L:2009:215:0003:0004:EN:PDF
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 24 Medi 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4279
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo Bagloriaeth Cymru ymhellach a sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i sicrhau ei llwyddiant yn y tymor hir.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod pob sefydliad Addysg Uwch yn y DU yn cydnabod gwerth llawn Bagloriaeth Cymru.
NDM4280
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y ffaith na fydd tagiau electronig defaid yn darparu dim mwy o fanteision o ran y gallu i olrhain na’r system bresennol, ac y bydd eu cost yn anghymesur.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y ffaith bod y Gweinidog wedi gwrthod argymhelliad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ‘na chaiff tagiau electronig eu rhoi ar waith hyd nes bod yr offer cyn agosed at fod yn 100% cywir ag sy’n dechnegol bosibl a bod gan y diwydiant hyder ynddo’.