30/04/2008 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 30 Ebrill 2008

Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Ebrill 2008

Dadl Fer

NDM3922

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Parciau Cenedlaethol: Cyflawni eu Dyletswydd a’u Diffygion Democrataidd.

NDM3900

Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.50: Yn cytuno y caiff Huw Lewis gyflwyno Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 27 Medi 2007 dan Reol Sefydlog 22.48, a Memorandwm Esboniadol. Gellir gweld y Gorchymyn arfaethedig amlinellol trwy ymweld â’r ddolen ganlynol:

h

ttp://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislative-ballots/busnes-gorchmynion-cymhwysedd-deddfwriaethol-balot-26-06-07/business-legislative-competence-orders-lco-44.htm

NDM3923

William Graham (Dwyrain De Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1 Yn mynegi ei bryder:

a) Y bydd dileu’r gyfradd dreth 10c yn cael effaith andwyol ar aelwydydd tlotaf Cymru;

b) Ar ôl 15 mlynedd o dwf economaidd, mai Cymru yw rhan dlotaf y DU a bod pobl Cymru’n mynd yn dlotach.

NDM3924

William Graham (Dwyrain De Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod rhan fawr o’r llwyddiant economaidd a gyflawnwyd yn Nwyrain De Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf wedi cael ei yrru gan brosiectau adfywio uchelgeisiol megis Datblygiad Bae Caerdydd; a

2. Yn galw i’r gwersi am adfywio effeithiol gael eu defnyddio’n gadarnach mewn ardaloedd megis Blaenau’r Cymoedd a’r Barri.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 25 Ebrill 2008

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM3923

1. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Yn is-bwynt a) dileu “bydd dileu’r gyfradd dreth 10c yn cael” a rhoi “gallai dileu’r gyfradd dreth 10c gael” yn ei le

2. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Ychwanegu ar ddiwedd is-bwynt a) “ac yn nodi’r camau y mae Canghellor y Trysorlys yn eu cymryd”

3. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu is-bwynt b)