Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 30 Mehefin 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Mehefin 2010
Dadl Fer - Ni Chyflwynwyd Testun
NDM4503 Sandy Mewies (Delyn)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, Cyfiawnder Ieuenctid: Profiad plant Cymru mewn Sefydliadau Diogel, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2010.
Sylwer: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mehefin 2010.
NDM4504 Nick Ramsay (Mynwy)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y byddai creu swydd maer wedi’i ethol yn uniongyrchol yn fanteisiol i nifer o gynghorau Cymru, yn darparu arweinyddiaeth leol gref ac yn gwella atebolrwydd democrataidd i ddinasyddion;
2. Yn croesawu cynlluniau Llywodraeth y DU i wneud yr heddlu’n fwy atebol drwy oruchwyliaeth gan unigolyn wedi’i ethol yn uniongyrchol.
NDM4505 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
b) Gynnal asesiad economaidd o effaith tollau Pontydd Hafren ar economi De Cymru;
c) Cyflwyno sylwadau pellach i Lywodraeth y DU am effaith negyddol y tollau, a pharatoi’r achos o blaid cael gwared ar y tollau pan ddaw’r pontydd i fod dan berchnogaeth gyhoeddus.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 25 Mehefin 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4504
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai pobl leol ar lefel leol ddylai wneud unrhyw benderfyniad i sefydlu maer a etholir yn uniongyrchol.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod awdurdodau lleol yn gallu sefydlu maer a etholir yn uniongyrchol drwy gynnal refferendwm lleol, ac yn nodi mai dim ond un refferendwm o’r fath a gynhaliwyd hyd yma yng Nghymru, ac roedd hwnnw’n aflwyddiannus.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 2, ar ôl ‘uniongyrchol' cynnwys:
‘, ond serch hynny, mae’n credu taw Llywodraeth Cynulliad Cymru fyddai yn y sefyllfa orau i weinyddu’r gwaith o roi polisi o'r fath ar waith yng Nghymru drwy ddatganoli pwerau dros blismona.’
4. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y ddarpariaeth i symud tuag at greu swydd maer wedi’i ethol yn uniongyrchol eisoes wedi’i chynnwys yn Neddf Llywodraeth Leol 2000 ac y gall gael ei gweithredu drwy refferendwm llwyddiannus.
2. Yn nodi bod Heddluoedd eisoes yn atebol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu drwy awdurdodau’r heddlu sy’n cynnwys mwyafrif o gynghorwyr etholedig yn ogystal â phobl leyg.
3. Yn credu y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol allu penderfynu ar unrhyw gynigion i newid y system gyfredol mewn perthynas ag atebolrwydd yr heddlu lleol.
Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://www.opsi.gov.uk/acts/acts2000/ukpga_20000022_en_1
NDM5405
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn croesawu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i asesu effaith tollau Pontydd Hafren ar economi De Cymru;
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal trafodaethau rheolaidd â Llywodraeth y DU ynghylch Pontydd Hafren a bydd yn parhau i drafod â hwy ynghylch rheolaeth y Pontydd a’u perchnogaeth yn y dyfodol,
3. Yn croesawu’r mesurau i ganiatáu defnyddio cerdyn i dalu’r tollau ac yn annog Llywodraeth y DU i sicrhau bod y newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud cyn y Cwpan Ryder.