30/09/2015 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 23/09/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 30 Medi 2015

Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Medi 2015

Dadl Fer

NDM5829 Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Gofal lliniarol yng Nghymru: edrych y tu hwnt i 2016.

NDM5828 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Atal Recriwtio i'r Fyddin mewn Ysgolion' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2015.

Cyflwynwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2015.

NDM5830 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi na chyrhaeddwyd y targedau ar gyfer amser atgyfeirio am driniaeth GIG Cymru ers 2010;

2. Yn gresynu at effaith andwyol bosibl amseroedd aros hir yn y GIG ar ganlyniadau cleifion a'u hansawdd bywyd; a

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu cynllun ac amserlen ar gyfer cyrraedd ei thargedau amser atgyfeirio am driniaeth.

NDM5831 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r rhan bwysig y mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn ei chwarae mewn profiadau unigolion o wasanaethau cyhoeddus.

2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yn barhaus i ddarparu cymorth i awdurdodau lleol er mwyn atal cynnydd mewn biliau treth gyngor;

3. Yn nodi mai'r band treth gyngor D cyfartalog yng Nghymru ar gyfer 2015-16 yw £1,328 a bod teuluoedd ar eu colled o £546 yn ystod y pedwerydd Cynulliad o ganlyniad i'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod rhewi'r dreth gyngor;

4. Yn credu y bydd pobl yng Nghymru yn amau'r gwerth am arian a ddarperir gan lawer o wasanaethau awdurdodau lleol yn dilyn y cynnydd hwn yn y dreth gyngor; a

5. Yn credu ymhellach bod angen gwneud mwy yng Nghymru i fanteisio ar y rôl y gall mudiadau trydydd sector ei chwarae yn y broses o ddarparu gwasanaethau lleol yn effeithiol.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 25 Medi 2015

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5830

1. Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau diagnosis cyflymach i leihau amseroedd aros.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 3:

'a sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld mewn modd amserol drwy gydol eu gofal.'

NDM5831

1. Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pob dim ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau awdurdod lleol yn y dyfodol os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fynd ar drywydd polisïau llymder.

Yn credu y dylai awdurdodau lleol a chymunedau gael y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain i godi cyllid, er mwyn amddiffyn gwasanaethau a swyddi lleol.