31/05/2016 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 31/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2016

​Cynigion a Gwelliannau i'w trafod yn y dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 31 Mai 2016

NNDM6019 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:

Yn cytuno bod Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 30 Mawrth 2016, yn cael eu dirymu.